Y Wledd Briodas
Swynwch eich gwesteion wrth iddynt fwyta trwy eu hamgylchynu â seiniau peraidd y delyn. Nid yn unig y bydd y gerddoriaeth yn ychwanegu at yr awyrgylch, ond bydd harddwch yr offeryn ei hun yn ganolbwynt i sylw’r gwesteion wrth iddynt gyrraedd. Cewch glywed amrywiaeth eang o gerddoriaeth at ddant pawb a fydd yn chwyddo awyrgylch rhamantus y wledd.
Bydd y Wledd Briodas fel arfer yn parhau am oddeutu awr a hanner i ddwy awr. Os ydy’r areithau yn dilyn y bwyd, bydd Heledd yn gadael wrth i’r coffi gael eu weini er mwyn amharu cyn lleied â phosib ar lif y diwrnod.