Wedding Harpist, Vale of Glamorgan, Bridgend, Cardiff, Swansea – Heledd Lyne

Pecynnau Priodas

Efallai yr hoffech i Heledd ganu’r delyn yn ystod y Gwasanaeth neu’r Croesawu, neu’r Wledd yn unig. Ar y llaw arall, efallai yr hoffech glywed y delyn ar ryw adeg arall hefyd. Drwy gyfuno dwy ran o’r dathliad, bydd cyfanswm y gost yn llai (h.y. os yw Heledd yn chwarae drwy’r Gwasanaeth a’r Wledd, bydd y gost yn llai na chyfanswm y ddau ar wahân).

Gweler yr opsiynau isod:

  • Y Gwasanaeth yn unig
  • Y Croesawu yn unig
  • Y Wledd yn unig
  • Y Gwasanaeth a’r Croesawu (gan gynnwys newid lleoliad)
  • Y Gwasanaeth a’r Croesawu (heb newid lleoliad)
  • Y Gwasanaeth a’r Wledd (gan gynnwys newid lleoliad)
  • Y Gwasanaeth a’r Wledd (heb newid lleoliad)
  • Y Croesawu a’r Wledd (heb newid lleoliad)


Gallir hefyd greu pecyn personol os na fydd eich priodas yn dilyn trefn draddodiadol.

Anfonwch eich ymholiadau drwy lenwi’r ffurflen ar y dudalen Cysylltu. Bydd y gost hefyd yn dibynnu ar y dyddiad, y pellter ac unrhyw ofynion arbennig.